Michael Boffey

'How forgiveness lets the evil make a loss' 44cms (h) x 33cms (w) x 6cms (d) Patinated bronze
Mae castiau efydd Michael Boffey yn anfarwoli blodau sydd wedi hen farw. Mae trin a chreu gludwaith o flodau gardd cyffredin a blodau siop, plastr, a deunyddiau eraill o’r amgylchedd cartref, yn arwain i grogddarnau sy’n hofran rhwng paentiad a cherflun. Mae symlrwydd ymddangosiadol y gwaith terfynol yn cuddio proses gymhleth o ddadadeiladu ac ailadeiladu y deunydd ffynhonnell gwreiddiol a’r cyfryngau.

Mae gan y confensiwn o gastio ffurfiau mewn efydd arwyddocâd diwylliannol wedi’i wreiddio’n ddwfn â’r awydd i roi ffurf barhaol i ddigwyddiadau dynol pwysig. Dros gyfnod o amser, mae’r patina sy’n ffurfio ar wyneb yr efydd trwy oedran ac amlygiad yn cyfateb i eiliadau penodol mewn bywyd yn mynd heibio.

www.michael-boffey.co.uk

Michael Boffey, How Forgiveness Lets The Evil Make A Loss, 2015, Efydd rhydlyd